Skip to main content

Cymraeg

Y Goruchaf Lys

Y Goruchaf Lys a system gyfreithiol y Deyrnas Unedig

Ym mis Hydref 2009, disodlwyd Pwyllgor Apeliadol Tŷ'r Arglwyddi fel y llys uchaf yn y Deyrnas Unedig gan y Goruchaf Lys.

Mae 12 Ustus y Goruchaf Lys yn cynnal y safonau uchaf a osodwyd gan y Pwyllgor Apeliadol, ond yn awr maent yn amlwg ar wahân i'r Llywodraeth a'r Senedd.

Mae'r Llys yn gwrando ar apeliadau ar bwyntiau cyfreithiol o'r pwysigrwydd mwyaf i'r cyhoedd y gellir dadlau yn eu cylch, ar gyfer y Deyrnas Unedig i gyd mewn achosion sifil, ac ar gyfer Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon mewn achosion troseddol.

Yn ogystal, mae'n gwrando ar achosion ar faterion datganoli dan Ddeddf yr Alban 1998, Deddf Gogledd Iwerddon 1988 a Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Trosglwyddwyd yr awdurdodaeth hon i'r Goruchaf Lys o Bwyllgor Barnwrol y Cyfrin Gyngor.

Mae'r Goruchaf Lys yn eistedd yng nghyn adeilad Guildhall Middlesex, ar ochr orllewinol Parliament Square.

Mae'r lleoliad newydd hwn yn arwyddocaol iawn o wahanu pwerau'r Deyrnas Unedig, gan gydbwyso'r farnwriaeth a'r corff deddfwriaethol ar draws ehangder Parliament Square, gyda'r adran weithredol (adeilad y Trysorlys) a'r eglwys (Abaty San Steffan) ar y ddwy ochr arall.

Mae'r Goruchaf Lys yn penderfynu ar faterion datganoli hefyd, hynny yw, pa un ai a yw'r awdurdodau datganoledig gweithredol a deddfwriaethol yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon wedi gweithredu neu'n bwriadu gweithredu o fewn eu pwerau, ynteu a ydynt wedi methu cydymffurfio ag unrhyw ddyletswydd arall a orfodwyd arnynt. Gall achosion datganoli gyrraedd y Goruchaf Lys mewn tair ffordd:

  • Cyfeirio gan rywun sy'n gallu arfer pwerau statudol perthnasol megis y Twrnai Cyffredinol, pa un ai a yw'r mater yn destun ymgyfreitha ai peidio
  • Trwy apêl o rai llysoedd uwch yng Nghymru a Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon
  • Cyfeirio gan lysoedd apêl penodedig